Mae lle i 7 gysgu yn yr Ysgubor mewn 3 ystafell wely.

Mae Ysgubor wedi cael ei adnewyddu ar gyfer 2019 - cegin chwaethus gyda top gwenithfaen Sylestone, gydag offer Neff.

Lliwiau paent newydd a charped moethus wedi dod a teimlad ffres a glan i'r bwthyn moethus.

Mae’r Ysgubor yn cynnig llety o safon uchel, cyfforddus a glân i hyd at 7 o bobl, ac mae’n addas i gadair olwyn. mae hefyd yn addas i gwpwl fyddai eisiau dengid eu hunain a chael digon o le. Mae'r dillad gwely 100% lliain ar y gwely brenin 4 postyn yn foethusrwydd pur!

Gyda’i batio ei hun mae’r Ysgubor yn cynnig ardal ddelfrydol ar gyfer prydau al fresco neu wneud dim byd ond mwynhau'r haul.

Mae gan Ysgubor gyfoeth o drawstiau a waliau cerrig agored ac mae wedi ei addurno yn chwaethus. Mae'r sofas lledr yn gyfforddus a deniadol. A'r gadair freichiau felen yr un modd.

Yn Ysgubor mae gwres canolog llawn, teledu lliw, chwaraewr DVD a CD. Mae cot teithio, cadair uchel a giât ddiogelwch ar gael hefyd. Prynwyd yr holl ddodrefn pîn gan grefftwr lleol a gadwodd at yr arddull traddodiadol.

• Yn Ysgubor mae ystafell wely ‘twin’ gydag ystafell gawod mynediad gwastad sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn.

• I fyny’r grisiau mae ystafell wely sylweddol gyda 3 gwely sengl a Theledu/DVD cyfun

• Yn y trydydd ystafell wely mae gwely 4 postyn haearn a phres antique maint ‘brenin’ -

Yn yr ystafell ymolchi gyfforddus mae bath trobwll mawr - perffaith i ymlacio - a chawod uwch ei ben.

Mae’r ystafell olchi dillad er budd y 3 bwthyn ac mae’n cynnwys:

• Sychwr dillad a pheiriant golchi.
• Rhewgell.
• Llyfrgell fach o lyfrau gan gynnwys llyfrau cerdded a gemau.

  • ysgubor-1
  • ysgubor-2
  • ysgubor-3
  • ysgubor-4
  • ysgubor-5
  • ysgubor-6
  • ysgubor-7
  • ysgubor-8
  • ysgubor-9
  • ysgubor-10
  • ysgubor-11
  • ysgubor-12
  • ysgubor-13
  • ysgubor-14
  • ysgubor-15
  • ysgubor-16
  • ysgubor-17
  • ysgubor-18
  • ysgubor-19
  • ysgubor-20
  • ysgubor-21
  • ysgubor-22
  • ysgubor-23
  • ysgubor-24
  • ysgubor-25
  • ysgubor-26
  • ysgubor-27
  • ysgubor-28
  • ysgubor-29
  • ysgubor-30

Argaeledd

Gweld ein argaeledd presennol

Argaeledd Ysgubor

Cynllunio Eich Taith

Gweld ein lleoliad ac i gynllunio eich taith

Cynllunio eich taith

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!