Mae Abersoch, Aberdaron, Nefyn, Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen (y trydydd bar traeth gorau yn y byd) a’r holl draethau hardd ar y penrhyn yn agos gyda’r traeth agosaf 3½ milltir i ffwrdd.

Gallwch gerdded, chwarae golff, mynd ar deithiau pysgota ar y môr a defnyddio’r llu o gyfleusterau chwaraeon dŵr sydd ar gael yma. Gallwch gyrraedd tref farchnad Pwllheli, tref lan môr Cricieth a Phorthmadog yn ogystal â’r llu o atyniadau hanesyddol a deniadol fel Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion yn rhwydd o Grugeran.

Mae Aberdaron yn bentref bach delfrydol o dai a bythynnod pysgotwyr gwyngalchog ar ben eithaf Penrhyn Llŷn. Y bardd adnabyddus, R S Thomas, oedd ficer Eglwys Hywyn Sant sydd ar fin y môr.

Os ydych yn mwynhau cerdded, mae digon o ddewis i chi yma! Wnaethoch chi erioed ddod rownd tro ar lwybr ar yr arfordir a gweld morloi yn torheulo ar y creigiau? Mae hyn yn digwydd yn aml ar flaen trwyn Porthdinllaen. Dilynwch lwybr yr arfordir o gwmpas y Penrhyn, neu mentrwch i ben Garn Boduan neu’r Eifl - y copa uchaf ar Benrhyn Llŷn.

Tre’r Ceiri yw un o’r enghreifftiau gorau o fryngaer o’r Oes Haearn yng ngogledd Ewrop. Mae’r golygfeydd oddi yma yn anhygoel.

Mae Llanberis yn atyniad twristaidd o bwys ac mae’n werth mynd ar daith yno. Yno gallwch:
• Fynd ar daith i ben yr Wyddfa - cliciwch yma (Os nad ydych awydd cerdded!)
• Fwynhau taith hamddenol mewn cwch â tho ar Lyn Padarn gyda golygfeydd trawiadol o Eryri ar y ‘Snowdon Star’.
• Fynd ar daith ar y trên ar hyn Llyn Padarn - cliciwch yma.
• Ymweld â’r Amgueddfa Lechi genedlaethol sy’n cynnig diwrnod llawn o fwynhad ac addysg mewn lleoliad dramatig o hardd.

Does unman yn debyg i bentref Portmeirion a byddwch yn mwynhau treulio diwrnod yno ymhlith yr adeiladau unigryw a ddyluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis. Cliciwch yma i ymweld â’u gwefan.

Mae Plas yn Rhiw yn gyn faenordy, ac erbyn hyn yn eiddo poblogaidd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda gardd hardd a golygfeydd trawiadol. Mae’r ardd yn cynnwys llawer o lwyni a choed hardd. Allwch chi ddim curo’r golygfeydd ar draws y gerddi a’r tir draw ar draws Bae Ceredigion. Cliciwch yma i ymweld â’u gwefan.

Y mae hud arbennig i Nant Gwrtheyrn, yr hen bentref chwarelyddol yng nghysgod yr Eifl ac ar lan Bae Nefyn. Cliciwch yma i ymweld â’u gwefan.

Mae Rheilffordd Eryri yn rhedeg ar daith 25 milltir wych lawn golygfeydd o Gaernarfon. Ar Reilffordd Ffestiniog cewch deithio am 13.5 milltir o’r harbwr ym Mhorthmadog i dref lechi Blaenau Ffestiniog. Cliciwch yma i ymweld â’u gwefan.

Ynys wyllt 2 filltir o drwyn eithaf Penrhyn Llŷn yw Ynys Enlli. Yn llawn o fywyd gwyllt, arfordir dramatig a hanes hynod o ddifyr, mae digon i’w ddarganfod ar daith diwrnod neu wyliau ar yr ynys unigryw hon. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

Gyda hyn i gyd a mwy ar y trothwy, mae digon i chi ei wneud yn ystod eich arhosiad ar Fferm Crugeran. Am ragor o syniadau, cliciwch yma i weld yr awgrymiadau ar TripAdvisor.

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!