Gadlas - lle i 14 mewn 5 ystafell wely ar 2 lawr.
Bwthyn gwyliau mawr gwych gydag elfennau ychwanegol arbennig, teledu yn y rhan fwyaf o ystafelloedd gwely, sawna preifat, caban cawod stêm, cegin o’r radd flaenaf gyda bwrdd gwaith gwenithfaen ac addurniadau llawn steil sy’n ei wneud yn lle perffaith i ymlacio gyda theulu neu ffrindiau. Ystafelloedd ymolchi a gwely wedi eu dylunio yn unigol gan greu awyrgylch cartrefol.
Gellir ei gysylltu â Deri drws nesaf i wneud un bwthyn mawr i 24 - delfrydol ar gyfer dod â nifer fawr o’r teulu/ffrindiau at ei gilydd.
Llawr gwaelod |
Cegin dderw fawr agored lliw hufen gyda bwrdd bwyd a theledu. |
---|---|
Ystafell Wely 1 |
Gwely ‘superking’ y gellir ei rannu yn ddau wely sengl os gofynnir am hynny, cawod mynediad gwastad en-suite. Teledu. |
Ystafell Wely 2 |
Gwely ‘superking’ y gellir ei rannu yn ddau wely sengl os gofynnir am hynny. Teledu. |
Ystafell Wely 3 |
Ystafell i’r teulu gydag 1 gwely ‘brenin’ a dau wely bync maint llawn. Teledu. |
Ystafell Wely 2 a 3 |
yn rhannu ystafell ymolchi gyda chaban cawod stêm. |
Laundry room |
|
Sauna |
|
Llawr cyntaf |
lolfa fawr gyda soffas, teledu a llosgwr coed |
Ystafell wely 4 |
gwely ‘brenin’ gydag ystafell gawod en-suite |
Ystafell wely 5 |
Ystafell i deulu gydag 1 gwely maint ‘brenin’ a 2 wely sengl gydag ystafell ymolchi en-suite a bath yng nghanol yr ystafell gyda thapiau cawod ar y bath. |
• Patio brecwast yn wynebu’r de ddwyrain gyda meinciau picnic i fwynhau haul y bore, yn agor ar ddarn o laswellt i’w rannu.
• Gardd breifat gydag offer barbeciw a dodrefn bwyta allan yn y cefn - yn wynebu’r de orllewin. Mynediad preifat a digon o le i barcio.
• Cae chwarae mawr i’w rannu gyda ffrâm ddringo, dwy gôl pêl-droed a thrampolîn.
• Wi-Fi ar gael
• 1 tywel bath ac 1 tywel dwylo i bob unigolyn i’w defnyddio yn y bwthyn yn unig.
• Ar ffordd fach gul rhwng Bryncroes a Sarn, lai na milltir o Grugeran a thua hanner milltir o Sarn - taith gerdded braf. Golygfeydd anhygoel gyda theithiau cerdded cylchynol yn bosibl ar hyd ffyrdd gwledig a rhai llwybrau.
• Dyfarnwyd 5 seren i’r bythynnod gan Croeso Cymru ac wedi cymhwyso ar gyfer y dyfarniad Croeso Cerddwyr.
Trysor yn wir!