Mae tri bwthyn gwyliau ar gael yma yng Nghrugeran:-

Lai na milltir oddi yma ym Meudai Mynachdy mae gennym ddatblygiad newydd ac eithriadol lle mae dau adeilad amaethyddol wedi eu troi yn llety moethus - Deri Llŷn a Gadlas a agorodd ym Mehefin 2012.

Cynlluniwyd y bythynnod yn arbennig gan ystyried anghenion criwiau mawr - ystafelloedd mawr i bawb gyfarfod ac ardaloedd preifat llai pan fydd arnoch angen llonydd. Mae pawb ohonom yn chwilio am y teimlad braf yna'r dyddiau hyn ac mae digonedd ohono yma. Ymhlith y moethau bach ychwanegol sy’n gwneud i Deri a Gadlas sefyll allan mae’r sawna preifat, caban stêm/cawod. Mae golygfeydd rhyfeddol o Benrhyn Llŷn yn eich amgylchynu yn y “trysorau cudd” yma.

Addurnwyd ein holl fythynnod yn ofalus gan gadw at eu cymeriad hefo dodrefn traddodiadol, trysorau a ddarganfuwyd mewn arwerthiannau, a chyfleusterau modern trwyddynt, ac rydym yn ymfalchïo ym moethusrwydd a glendid ein bythynnod.

Ym mhob bwthyn mae:

  • Teledu lliw, chwaraewr DVD a CD a sychwr gwallt
  • Cot teithio, cadair uchel a giât ddiogelwch ar gael
  • Trydan yn gynwysedig yn y rhent
  • Dillad gwely cotwm moethus - ac eithrio ar gyfer y cot teithio (dewch â’ch rhai eich hun os gwelwch yn dda)
  • 1 tywel dwylo ac 1 tywel bath i bob unigolyn - i’w defnyddio yn y bwthyn yn unig felly dowch â’ch tyweli traeth eich hun os gwelwch yn dda
  • Llieiniau llestri, cadachau llestri, menig popty, hylif golchi llestri, tabledi i’r peiriant golchi llestri
  • WI-FI


Gofynnir yn garedig i’r gwesteion beidio ag ysmygu yn y bythynnod - diolch yn fawr.

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!