Mae lle i 5 gysgu yn y Stabal mewn 2 ystafell wely.

Gyda’i batio ei hun mae’r Stabal yn cynnig ardal ddelfrydol ar gyfer prydau al fresco neu wneud dim byd ond mwynhau'r haul.
Mae gan Stabal gyfoeth o drawstiau a waliau cerrig agored ac mae’r gegin/ystafell fyw wedi ei diweddaru yn ddiweddar. Yn y gegin hyfryd newydd wedi ei pheintio mewn lliw carreg gyda bwrdd gwaith gwenithfaen ceir peiriant golchi llestri, oergell fawr, microdon, popty â hob a rhewgell fach. Mae’r cadeiriau esmwyth lledr coch yn bleser i ymlacio ynddynt.

I lawr grisiau

Gwely dwbl 4 postyn hufen hyfryd gyda chyfleusterau en-suite. Yn yr ystafell ymolchi mae blwch cawod, a bath trobwll mawr - sy’n wych i ymlacio ynddo ar ôl taith hir ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn.

I fyny’r grisiau

Mae ail ystafell wely gyda gwely dwbl a sengl, ac ystafell gawod.

Mae Stabal yn addas i’r rhai all ymdopi ag ychydig o risiau’r tu allan.

Mae Stabal yn cynnig llety o safon uchel, cyfforddus a glân i hyd at 5 o bobl.

Mae’r ystafell olchi dillad er budd y 3 bwthyn ac mae’n cynnwys:

• Sychwr dillad a pheiriant golchi.
• Rhewgell.
• Llyfrgell fach o lyfrau gan gynnwys llyfrau cerdded a gemau.

  • stable-01
  • stable-02
  • stable-03
  • stable-04
  • stable-05
  • stable-06
  • stable-07
  • stable-08
  • stable-09
  • stable-10
  • stable-11
  • stable-12

Argaeledd

Gweld ein argaeledd presennol

Argaeledd Stabal

Cynllunio Eich Taith

Gweld ein lleoliad ac i gynllunio eich taith

Cynllunio eich taith

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!