Fferm bîff, defaid a grawn yng nghanol harddwch Penrhyn Llŷn yw Crugeran.
Mae gennym 5 o fythynnod hyfryd o safon uchel, sydd ar agor trwy’r flwyddyn, i chi ddewis o’u plith a bydd popeth yn cael ein gofal personol.
Ein nod yw cynnig profiad cofiadwy i chi ar eich gwyliau a’ch helpu i ddod o hyd i’r elfennau hynny sy’n gwneud i chi deimlo ar eich gorau. Mae’r cyfan yn dechrau wrth i chi gyrraedd gyda chacennau cartref blasus i’ch croesawu yma!