Mae lle i 10 mewn 4 ystafell wely yn Deri Llŷn.

Bwthyn gwyliau mawr gwych gydag elfennau ychwanegol arbennig, teledu ym mhob ystafell wely, sawna preifat, caban cawod stêm, cegin o’r radd flaenaf gyda bwrdd gwaith gwenithfaen ac addurniadau llawn steil sy’n ei wneud yn lle perffaith i ymlacio gyda theulu neu ffrindiau. Ystafelloedd ymolchi a gwely wedi eu dylunio yn unigol gan greu awyrgylch cartrefol.

Gellir ei gysylltu â Gadlas drws nesaf i wneud un bwthyn mawr i 24 - delfrydol ar gyfer dod â nifer fawr o’r teulu/ffrindiau at ei gilydd.

Ystafell Wely 1

Gwely ‘superking’ y gellir ei rannu yn ddau wely sengl os gofynnir am hynny, cawod mynediad gwastad en-suite.

Ystafell Wely 2

Gwely ‘superking’ y gellir ei rannu yn ddau wely sengl os gofynnir am hynny

Ystafell Wely 3

Ystafell i’r teulu gydag 1 gwely ‘brenin’ a dau wely bync maint llawn.

Ystafell Wely 2 a 3

Yn rhannu ystafell ymolchi gyda bath a chaban cawod stêm

Ystafell Wely 4

Gwely ‘superking’ 4 postyn, bath trobwll yn y gornel i 2 yn yr ystafell wely, ystafell haul/eistedd yn gysylltiedig gyda theledu. Ystafell gawod en-suite.

• Cegin dderw agored fawr a byrddau gwaith gwenithfaen gyda bwrdd bwyd a soffas a theledu a llosgwr coed

• Ystafell haul /lolfa gyda soffas a theledu

• Ystafell olchi dillad

• Sawna

• Patio brecwast yn wynebu’r de ddwyrain gyda meinciau picnic i fwynhau haul y bore, yn agor ar ddarn o laswellt i’w rannu.

• Gardd breifat gydag offer barbeciw a dodrefn bwyta allan yn y cefn - yn wynebu’r de orllewin. Mynediad preifat a digon o le i barcio.

• Cae chwarae mawr i’w rannu gyda ffrâm ddringo, dwy gôl pêl-droed a thrampolîn.

• Wi-Fi ar gael

• 1 tywel bath ac 1 tywel dwylo i bob unigolyn i’w defnyddio yn y bwthyn yn unig

• Ar ffordd fach gul rhwng Bryncroes a Sarn, lai na milltir o Grugeran a thua hanner milltir o Sarn - taith gerdded braf. Golygfeydd anhygoel gyda theithiau cerdded cylchynol yn bosibl ar hyd ffyrdd gwledig a rhai llwybrau.

• Dyfarnwyd 5 seren i’r bythynnod gan Croeso Cymru ac wedi cymhwyso ar gyfer y dyfarniad Croeso Cerddwyr

Trysor yn wir!

  • deri-01
  • deri-01
  • deri-03_sm
  • deri-04
  • deri-05
  • deri-06
  • deri-07
  • deri-08
  • deri-09
  • deri-10
  • deri-11
  • deri-12
  • deri-13
  • deri-14
  • deri-15
  • deri-16
  • deri-17
  • deri-18
  • deri-19
  • deri-20
  • deri-21
  • deri-22
  • deri-23
  • deri-24
  • deri-25
  • deri-26
  • deri-03
  • deri-28
  • deri-29
  • deri-30
  • deri-31
  • deri-32
  • deri-33
  • deri-34

 

Argaeledd

I weld ein argaeledd presennol, cliciwch yma.

Cynllunio Eich Taith

I weld ein lleoliad ac i gynllunio eich taith, cliciwch yma.

 

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!