Mae lle i 4 gysgu yn Llofftstabal mewn 2 ystafell wely y cyfan newydd gael ei adnewyddu yn sylweddol!
Mae’r llety hwn â distiau yn y nenfwd ar y llawr cyntaf i gyd gan gynnig awyrgylch agored, cyfforddus a golau.
Ceir dwy ystafell wely:
• Un gwely dwbl Fictoraidd pres a haearn â dillad gwely Eifftaidd moethus
• Un â gwelyau bync maint llawn
Mae’r ystafell fyw ar siâp L gyda chegin dderw wedi ei beintio newydd ei gosod â bwrdd gwaith gwenithfaen ar un pen yn cynnwys microdon, popty sengl mawr, hob anwythol, oergell â blwch rhew a pheiriant golchi llestri. Er mwyn creu ardal fwyta gymdeithasol mae yma fwrdd crwn wedi ei beintio a chymysgedd ddiddorol o gadeiriau.
Ceir teledu lliw a DVD, chwaraewr CD a soffa ledr a chadair esmwyth cyfforddus, gyda chlustogau a charthenni chwaethus. Gosodwyd mat gwlanen mawr o flaen y soffa.
Rhoddwyd teils sy’n edrych fel estyllod pren yn yr ystafell fyw a’r ystafell ymolchi (realistig iawn!) sy’n cael eu gwresogi dan y llawr. Er mwyn sicrhau eich bod yn gynnes yn y tywydd oer mae llosgwr coed yng nghornel yr ystafell fyw. Y mae gwresogydd panel trydan yn y brif ystafell wely a gwresogydd symudol ar gyfer yr ail ystafell wely, a rheilen dyweli wedi ei chynhesu yn yr ystafell ymolchi.
osodwyd caban mwy i’r gawod hefyd yn yr ystafell ymolchi a chawod drydan o’r radd flaenaf - a daliwr papur tŷ bach gwahanol iawn!
Wrth y drws mae bwrdd picnic pren sy’n llecyn delfrydol i fwynhau eich coffi yn y bore ar y patio.
Mae’r ystafell olchi dillad er budd y 3 bwthyn ac mae’n cynnwys:
• Sychwr dillad a pheiriant golchi.
• Rhewgell.
• Llyfrgell fach o lyfrau gan gynnwys llyfrau cerdded a gemau.