garden

R

ydym yn rhedeg fferm 700 erw sy’n cynnwys 3 uned ar wahân. Crugeran yw’r brif fferm, sy’n 190 erw gyda Bodnithoedd gerllaw, fferm 200 erw ar rent y mae’r teulu wedi ei ffermio ers 1949. Mae 345 erw o ucheldir ym Maesog, ger Caernarfon hefyd yn ein meddiant. Rydym yn cyflogi dau weithiwr ar y fferm.

Mae gennym 210 o fuchod Stabiliser ac mae 120 yn lloeau yng nghanol Mawrth am 9 wythnos a 90 yn lloeau o ganol Mehefin am 6 wythnos. Rydym yn cadw diadell o 550 o famogiaid Suffolk Seland Newydd croes Llŷn sy’n ŵyna ym mis Ionawr gan gynhyrchu ŵyn 40kg ar laswellt mewn 12 i 14 wythnos, yr ydym yn eu magu o’n diadell Llŷn o 300 o famogiaid yn ŵyna yn Chwefror. Mae gennym 125 erw o dir âr hefyd sy’n tyfu 60 erw o haidd, 15 erw o geirch, 25 erw o feillion coch 25 erw o sŵej. Mae hwn yn cael ei fwyta gan ein stoc, yr haidd a’r ceirch i’r gwartheg a’r sŵej i’r defaid. Mae cadw buches a diadell gaeedig yn bwysig iawn i’n cynllun busnes trwy gadw costau stoc cyfnewid yn isel a chael y cynhyrchiant gorau â statws iechyd uchel.

Ein nod at y dyfodol yw dal i gynhyrchu stoc o safon uchel ar gostau isel trwy ddatblygu anifeiliaid gyda gwerth genynnol uchel sy’n parhau i wthio ffiniau cynhyrchu heb effeithio ar yr amgylchedd a hefyd lleihau’r ôl troed carbon. Mae mwy o le i wella yn y fuches fagu lle gellir cymryd camau breision, a gyda’r Cwmni Gwartheg Stabiliser, byddwn yn symud ymlaen i gyflawni hyn (e.e. y Net Feed Efficiency Centre, Givendale, Caerefrog).

Technegol

Tua 2000 – 2001 penderfynodd Richard, fy ngŵr, ei fod am symud y fuches bîff o fuwch fagu croesiad Freisian Limousin i’r brîd Stabiliser. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y dirywiad yn safon y fuwch Limousin groes laeth gyda dylanwad cynyddol y brîd Holstein ar y fuches laeth genedlaethol a’r diffyg nodweddion mamol yn y brîd. Roedd Richard hefyd yn chwilio am fuwch sy’n hawdd ei chadw mewn buches fawr gyda ffrwythlondeb da i gadw patrwm lloeau tynn ac yn lloeau yn hawdd.

Dewiswyd y gwartheg Stabliliser. Brîd cyfansawdd yw hwn a’i hanner o fridiau bîff cynhenid Prydain a’r hanner arall yn fridiau Cyfandirol. Mae’r brîd yn cynnig polisi cyfnewid mwy cynaliadwy oherwydd y gallu i gadw ein heffrod ein hunain. Mae’r brîd hefyd yn cynnig nodweddion mamol effeithlon sy’n addas i system fewnbwn isel gan gadw bywiogrwydd croesiad a’r allbwn yn uchel.

Daeth y fferm yn rhan o “Cynhyrchwyr Bîff Llŷn” a sefydlodd fuches Stabiliser gnewyllol gyda help technegol gan Hybu Cig Cymru. Defnyddiwyd trosglwyddo embryonau a tharw potel er mwyn gweld cynnydd genynnol.

Nod ein mab Harri yw cynhyrchu buchod canolig eu maint, cigog, 600kg, gyda gwerth genynnol uchel. Rydym yn gwthio ein buchod yn galed ar ein fferm ucheldir a heb borthiant ychwanegol mae’r lloeau yn cael eu diddyfnu yn 6 mis oed â’r lloeau gwryw yn pwyso 250kg a’r rhai benyw 230kg. Gyda phwysau cyfartalog y lloeau yn 240kg, mae hyn yn cyfateb i 37% o bwysau’r buchod wrth gael eu diddyfnu. Nid yw hyn yn ddigon uchel, ein nod yw cyrraedd 45% a gyda’r camau breision yr ydym yn eu cymryd, bydd cyrraedd hyn yn y system yr ydym yn ei rhedeg yn bosibl. Rydym yn sylweddoli y gallai’r ffigwr hwn fynd dros 50% gyda chymorth porthiant ychwanegol a/neu ddefnyddio tarw llinell derfynol fel Charolais. Ond byddai gweithredu’r ddau gam yma yn cynyddu costau cynhyrchu, ac nid ydym am wneud hynny. Ein prif nod, wrth gwrs, yw cynhyrchu buchod magu cyfnewid effeithlon isel eu mewnbwn, ac felly ni fydd y pwysau wrth ddiddyfnu fyth mor uchel ag wrth ddefnyddio teirw terfynol i gynhyrchu bîff.

Mae pwysau’r fuwch yn bwysicach i Harri na phwysau’r llo wrth ei ddiddyfnu, oherwydd ei fod yn gwybod, gyda gwerth genynnol y lloeau hynny, ac ychydig o dyfiant ychwanegol, bydd y lloeau yn cyrraedd eu pwysau targed o 610kg yn 12 – 14 mis i’r lloeau gwryw a rhwng 380 – 400 kg i’r lloeau benyw wrth fynd at y tarw. Gadewir y lloeau gwryw yn gyflawn i gynhyrchu teirw bridio a theirw bîff 12 i 14 mis. Wrth eu diddyfnu byddant yn cael eu rhoi ar silwair a chyflwynir dwysfwyd yn raddol i’r diet dros gyfnod o 4 wythnos ac erbyn hynny dylent fod yn bwyta 2.5% o’u pwysau o ddeunydd ffres mewn dwysfwyd ac 1% o’u pwysau mewn silwair. Ar yr adeg hon maent hefyd yn cael gwellt fel y mynnant. Mae haidd, ceirch, ychwanegiad protein, mwynau a bicarbonad yn y dwysfwyd. Am ein bod yn tyfu ein porthiant ein hunain a dim ond yn prynu’r ychwanegiad protein i mewn, rydym yn anelu at werth maethol i’r diet o ME-12, P-14 a Starts-30 heb i’r costau fynd yn rhy uchel. Bydd y lloeau tarw ar y diet hwn nes eu bod yn 11 mis oed pan fyddwn yn stopio porthi’r silwair ac yn cynyddu lefel y dwysfwyd i 3% o bwysau eu cyrff fel mai’r protein sy’n gostwng ac yn gadael i’r teirw fynd ychydig yn fwy cigog cyn mynd i’w lladd. Rydym yn anelu at garcas 340 kg R4L/-U4L sydd yn gyfradd dyfu ar gyfartaledd o 1.8kg y dydd o’u diddyfnu hyd eu lladd. Mae’r holl wartheg ifanc sy’n cael eu porthi yn cael eu pwyso yn fisol a’r porthiant yn cael ei addasu yn ôl hynny. Gadewir ein teirw magu ar y diet gwreiddiol gyda’r posibilrwydd o’u troi allan ar laswellt os byddant wedi eu gwerthu a bod y prynwr yn dymuno hynny.

Yn ddelfrydol byddai’r lloeau benyw yn cael eu troi ar laswellt ar ein tir gwaelod am tua 4 i 6 wythnos ar ôl diddyfnu a chyn eu rhoi i mewn ond oherwydd ein bod yn rhoi blaenoriaeth i’r buchod sy’n lloeau ddiwedd haf ar yr un tir mae’n rhaid i ni eu cadw i mewn. Byddant yn cael eu rhoi ar silwair i’w fwyta fel y maent yn dymuno ac 1.5% o’u pwysau o’r un dwysfwyd â’r teirw. Mae lefel ME a Starts hwn yn uwch iddynt ond oherwydd ei fod mor rhwydd i’w reoli dyna’r hyn y maent yn ei gael. Mewn cymhariaeth â theirw sy’n cael eu gwthio ymlaen, mae’r heffrod yn cael eu cadw dros y gaeaf a byddwn yn eu dal yn ôl ar ddim ond 0.6kg y dydd. Mae hyn a’r twf ynddynt pan gânt eu troi i’r glaswellt yn ein galluogi i daro’r targed o 380 i 400g wrth fynd at y tarw yn 14 mis oed.

Rydym yn gwerthu ein holl wartheg i’w lladd oddi ar laswellt yn bennaf ond pan fydd yn bosibl mae’r buchod yn mynd ar india corn i’w fwyta yn ddirwystr a’r heffrod ar ddwysfwyd ar 2% o’u pwysau ac india corn i’w fwyta’n ddirwystr.

A ninnau yn un o’r ffermydd lluosogi ‘multiplier’ yn y Beef Improvement Grouping Ltd, rydym yn gwerthu teirw bridio a heffrod â gwerth genynnol uchel, wedi eu magu yn fasnachol. Mae rhedeg y fuches yn fasnachol yn hanfodol i gynhyrchu gwartheg effeithlon ac felly mae’n rhaid i ni gadw at reolau caeth. Gan fod y fuches wedi bod yn trosglwyddo i ddod yn fuches Stabiliser bedigri llawn am y 13 mlynedd diwethaf, fe gafwyd cyfraddau cyfnewid heffrod uchel. Ond erbyn hyn rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle mae gennym fwy o stoc o werth genynnol uchel ar gael. Felly bydd Harri yn gallu cyflymu’r broses o fridio, gan ganolbwyntio ar ffrwythlondeb y fuches trwy ddewis y lloeau heffrod a aned yn y 3 wythnos cyntaf o’r bloc lloeau yn heffrod cyfnewid. Wrth gwrs mae bridio gwartheg gyda gwerth bridio tybiedig da yn hanfodol ar gyfer ein cynnydd ond mae’n rhaid i chi edrych ar y gwartheg hefyd. Os nad ydyn nhw’n addas i’w gwaith yn gorfforol o ran eu traed, coesau, yna does dim pwynt. Mae bod yn gadarn o ran corffolaeth a gwerth bridio tybiannol da yn mynd law yn llaw. Trwy drosglwyddo embryonau o wartheg gwerth genynnol uchel o America, rydym yn arwain y blaen o ran cronfa enynnol y Stabiliser, gan ein galluogi i wella ein buches a chynhyrchu heffrod bridio a theirw i’w gwerthu o safon uchel.

Mae iechyd y fuches yn rhan fawr o gyrraedd y nodau yma. Rydym yn rhan o Gynllun Iechyd Gwartheg Premiwm SAC Mae’r fuches wedi ei hachredu o ran BVD ac Afiechyd Johnes ac rydym hefyd yn brechu ar gyfer Lepto, IBR a brechiad 10 mewn 1 clostridia.

Ynghyd â geneteg ac iechyd, mae rheoli pridd a glaswelltir yn allweddol i gynyddu cynhyrchiant. Er ein bod yn rhoi pwyslais mawr ar y pridd ac yn rhedeg system bori dda iawn heb unrhyw laswellt yn cael ei wastraffu, rydym yn chwilio am ffyrdd i gynyddu twf y glaswellt bob amser. Pan fyddwn yn ail-hadu byddwn yn defnyddio mathau llawn siwgr ac rydym wedi dechrau defnyddio ffensys trydan i reoli’r pori yn fwy manwl gyda’r dewis o ddefnyddio pori cylchdro. Mae defnyddio hyn pan fydd gennych 3 neu 4 grŵp o fuchod hefo’r tarw yn anodd. Efallai y gallem edrych ar ddefnyddio rhagor o darw potel yn y dyfodol fel bod y fuches yn gallu aros hefo’i gilydd yn ystod y cyfnod gofyn tarw.

Os ydych chi wedi llwyddo i ddarllen hwn i gyd a bod gennych ddiddordeb o hyd - gofynnwch am daith o gwmpas y fferm pan ddowch chi i aros.

  • farm-01
  • farm-02
  • farm-03
  • farm-04
  • farm-05

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!