Mae digon i chi ei wneud yn ystod eich arhosiad ar Fferm Crugeran, beth bynnag ydi’r tywydd!
Mae Abersoch, Aberdaron, Nefyn, Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen (y trydydd bar traeth gorau yn y byd) a’r holl draethau hardd ar y Penrhyn yn agos gyda’r traeth agosaf 3½ milltir i ffwrdd.
Gallwch gerdded, chwarae golff, mynd ar deithiau pysgota ar y môr a defnyddio’r llu o gyfleusterau chwaraeon dŵr sydd ar gael yma. Gallwch gyrraedd tref farchnad Pwllheli, tref lan môr Cricieth a Phorthmadog yn ogystal â’r llu o atyniadau hanesyddol a deniadol fel Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion yn rhwydd o Grugeran.
Dyma i chi ragor o syniadau am fannau i ymweld â nhw i’ch cadw chi a’r plant yn brysur!
• Zip World - Anturiaethau ar linellau zip gwahanol mewn lleoliadau trawiadol.
• Bounce Below - Trampolinau tanddaearol a llithrennau anferth mewn hen chwarel lechi.
• Llechwedd - Teithiwch dan ddaear ar daith i’r chwarel ddwfn neu ewch i fyny i archwilio’r creigiau llechi.
• Glasfryn Parc - Amrywiaeth o weithgareddau dan do ac allan gan gynnwys Saethyddiaeth, Bowlio Deg, Beiciau Pedair Olwyn a Thonfyrddio.
• Bridfa a Chanolfan Farchogaeth Lusitano Pen Llŷn
• Gelli Gyffwrdd - Pleidleisiwyd yn Atyniad Teuluol Gorau yng Ngogledd Cymru ers 5 mlynedd.
• Sw Fôr Ynys Môn - Acwariwm unigryw yn dangos y gorau o fywyd morol Prydain!
• Gypsy Wood - Diwrnod Hudolus i Ymwelwyr o Bob Oed
• Fferm Cwningod a Pharc Anifeiliaid Dwyfor
• Segontium - Olion caer Rufeinig yng Nghaernarfon
• Golff - Nefyn, Abersoch, Pwllheli a Criccieth.
• Pysgodfa Eisteddfa yng Nghricieth
• Yn Abersoch cewch ddewis eang o chwaraeon dŵr i chi roi cynnig arnynt - Cliciwch yma.
Gyda hyn i gyd a mwy ar y trothwy, mae digon i chi ei wneud yn ystod eich arhosiad ar Fferm Crugeran. Am ragor o syniadau, cliciwch yma i weld yr awgrymiadau ar TripAdvisor.