Ni dderbynnir anifeiliaid anwes yn y 3 bwthyn yma yng Nghrugeran, sef Llofftstabal, Ysgubor a Stabal - gan ein bod yn cael nifer o ymholiadau gan bobl sy’n dioddef o alergedd yn gysylltiedig ag anifeiliaid anwes.

Dim ond trwy drefniant ymlaen llaw y derbynnir anifeiliaid anwes yn Deri Llŷn a Gadlas.

Dim ond trwy drefniant ymlaen llaw y derbynnir anifeiliaid anwes yn Deri Llŷn a Gadlas.

£40 - £60 yw’r gost gan ddibynnu ar y maint a’r brîd am bob anifail am bob archeb. E.e. £40 am gwn bach e.e. jack Russel/Yorkies. £60 yr un am bob ci arall.

Mae gennym reolau ar gyfer anifeiliaid anwes yr ydym yn gofyn yn garedig i bobl gadw atynt. (Mae’n ymddangos bod yr anifeiliaid anwes yn cadw at y rheolau yn dda iawn - hefo’r perchnogion yr ydyn ni’n cael trafferth!) Gellir lawrlwytho copi yma, neu gellir ei bostio neu ei e-bostio atoch.

Os oes arnoch angen gwybod rhywbeth arall - mae croeso i chi ofyn - rwyf yma i geisio sicrhau eich bod yn cael gwyliau gwych hefo neu heb eich anifeiliaid anwes!

Argaeledd - cliciwch yma (Cofiwch: Os nad oes gennym le ar gael, peidiwch â rhoi fyny - cysylltwch â mi os nad yw’r bwthyn o’ch dewis ar gael gan y gallwn gynnig disgownt ar fythynnod eraill yn arbennig yn ystod y tymor canolig a thawel)

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!