garden

Cyfarwyddiadau i Grugeran:

O Bwllheli ewch ar yr A499 tuag at Abersoch. Ym mhentref Llanbedrog trowch i’r dde i fyny rhiw serth i’r B4413. Arhoswch ar y ffordd hon trwy bentrefi Mynytho a Botwnnog. Un filltir ar ôl Botwnnog fe welwch chi Crugeran - y ffermdy, y bythynnod, yr ardd hefo’r trampolîn ac adeiladau fferm ar y chwith gyda’r prif adeiladau ar y dde. Cymrwch y troad cyntaf ar y chwith i’r ardd. Cod post: LL53 8DT

Routeplanner i Grugeran:

Rhowch eich cod post yn y blwch isod, cliciwch, ac yna fe gewch chi gynllun o’ch taith.

Cod post:

Cyfarwyddiadau i Deri Llŷn a Gadlas o Grugeran:

Ewch ymlaen ar hyd y B4413 gan fynd heibio Crugeran ac i bentref Sarn Mellteyrn. Ewch allan o’r pentref ar yr un ffordd – gan fynd heibio’r Crochendy ar y llaw chwith. Tua milltir o Grugeran fe ddowch at groesffordd fach. Dilynwch y ffordd i’r chwith i gyfeiriad Bryncroes, cymrwch y troad cyntaf i’r chwith ac fe ddowch i’r pentref ac ewch ar hyd y ffordd gul hon gan ei dilyn i’r chwith ar y gornel nesaf. Fe ddowch chi i’r bythynnod ar eich llaw chwith – Gadlas yw’r fynedfa gyntaf a Deri yw’r ail. Cod post: LL53 8EA

Cyfarwyddiadau i Deri Llŷn a Gadlas:

Rhowch eich cod post yn y blwch isod, cliciwch, ac yna fe gewch chi gynllun o’ch taith.

Cod post:

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!