swng

Fferm bîff, defaid a grawn yng nghanol harddwch Penrhyn Llŷn yw Crugeran. Mae ¼ milltir o bentref Sarn Mellteyrn gyda’i neuadd bentref, crochendy, dwy dafarn (sy’n cynnig bwyd), modurdy a siop, siop gornel a chigydd, yn ogystal â chae chwarae y gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr dymunol trwy un o gaeau’r fferm.

Rydym yn cynnig llety hunan arlwyo gwych mewn bythynnod o safon uchel sydd wedi eu creu o hen adeiladau fferm ar Benrhyn Llŷn. Rydym ar agor trwy’r flwyddyn ac yn cynnig gwyliau o unrhyw hyd.

Mae Abersoch, Aberdaron, Nefyn, Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen (y trydydd bar traeth gorau yn y byd) a’r holl draethau hardd ar y Penrhyn yn agos gyda’r traeth agosaf 3½ milltir i ffwrdd. Gallwch gerdded, chwarae golff, mynd ar deithiau pysgota ar y môr a defnyddio’r llu o gyfleusterau chwaraeon dŵr sydd ar gael yma. Gallwch gyrraedd tref farchnad Pwllheli, tref lan môr Cricieth a Phorthmadog yn ogystal â’r llu o atyniadau hanesyddol a deniadol fel Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion yn rhwydd o’r bythynnod gwyliau.
Mae croeso i chi ddefnyddio ein gwefan i weld ein bythynnod gwyliau, gwneud ymholiad a dysgu mwy am yr ardal.

Mae croeso cynnes yn eich aros yng Nghrugeran

Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau

 

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!